Podchaser Logo
Home
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 5ed o Fawrth 2024

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 5ed o Fawrth 2024

Released Tuesday, 5th March 2024
Good episode? Give it some love!
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 5ed o Fawrth 2024

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 5ed o Fawrth 2024

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 5ed o Fawrth 2024

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 5ed o Fawrth 2024

Tuesday, 5th March 2024
Good episode? Give it some love!
Rate Episode

TRYSTAN & EMMA DYDD GWENER 2302

Tesni Evans gafodd air gyda Trystan & Emma fore Gwener. Cafodd hi sialens i gael tatŵ gydag enw band Y Cledrau ar ei choes! Wnaeth hi dderbyn y sialens tybed?

Prif leisydd Main vocalist

Ffyddlon Faithful

Ymwybodol Aware

COFIO DYDD SUL 2502

A miwsig Y Cledrau oedd i’w glywed yn y cefndir yn fanna. Gobeithio, on’d ife, bod y band yn gwerthfawrogi tatŵ Tesni.Mae hi'n flwyddyn naid sef y flwyddyn pan mae dau ddeg naw, neu naw ar hugain, o ddyddiau ym mis Chwefror. Mae'n debyg bod y siawns o gael eich geni ar y dyddiad hwnnw yn un ymhob 1,461. Un o'r mil a hanner rheini yw Elin Maher (pron. Mahyr). Felly faint yn union yw oed Elin nawr?

Gwerthfawrogi To appreciate

Y gwirionedd The truth

Ar bwys Wrth ymyl

Gwneud yn fawr Making the most

Cyfoedion Peers

Ai peidio Or not

Sbo I suppose

Trin To treat

Tynnu sylw To draw attention

RHYS MWYN DYDD LLUN 2602

Elin Maher oedd honna, sydd ychydig bach yn hŷn na thair ar ddeg oed mewn gwirionedd!Ar raglen Rhys Mwyn clywon ni bod y Beatle enwog, George Harrison, wedi treulio amser yng ngwesty Portmeirion pan gafodd sengl y Beatles 'Get Back' ei rhyddhau ar Ebrill 11 1969. Rheolwr Safle Portmeirion, Meurig Rees Jones, sy’n sôn yn y clip nesa ‘ma am sut daeth e ar draws bwydlen oedd wedi ei harwyddo gan George Harrison ar y diwrnod hwnnw.Rhyddhau To release

Arwyddo To sign

Yr arbenigwr The expert

Y cysylltiadau The connections

Anhygoel Incredible

Amrywiaeth Variety

Ymchwil Research

Atgofion Memories

DROS GINIO DYDD MAWRTH 2702

Hanes diddorol George Harrison ym Mhortmeirion yn fanna ar raglen Rhys Mwyn.Sut dysgoch chi Gymraeg - ar-lein, wyneb yn wyneb neu’r ddwy ffordd? Pa ffordd ydy’r mwya effeithiol tybed?Cafodd llythyr ei gyhoeddi yn Golwg yn dweud ei bod yn bwysig cael gwersi Cymraeg wyneb yn wyneb yn dilyn twf dysgu ar-lein yn ystod y cyfnod clo. Jennifer Jones fuodd yn trafod hyn ar Dros Ginio a chafodd hi sgwrs gydag Alison Roberts o’r Alban, ond sydd nawr yn byw yng Nghymru, yn sôn am sut aeth hi ati i ddysgu’r iaith

Effeithiol Effective

Wyneb yn wyneb Face to face

Cymuned Community

Anghonfensiynol Unconventional

CARYL PARRY JONES DYDD MAWRTH 2702

Alison enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg yn anhygoel on’d yw hi, o feddwl nad ydy hi erioed wedi bod mewn dosbarth Cymraeg!Beth sy’n gwneud bwyty da? Llio Angharad, sy’n sgwennu am deithio a bwyd ar y gwefannau cymdeithasol, fuodd yn trafod hyn efo Caryl Parry Jones ddydd Mawrth wythnos diwethaGwefannau cymdeithasol Social media

Hynod o bwysig Extremely important

Crafu To scratch

Y goleuo The lighting

Swnllyd Noisy

(H)wyrach Efallai

ALED HUGHES DYDD MERCHER 2802

Caryl a Llio yn trafod beth sy’n gwneud bwyta da yn fanna. Dych chi’n cytuno â nhw?Pawlie Bryant o Santa Barbara fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes ddydd Mercher diwetha. Mae Pawlie yn gerddor ac mae e newydd sgwennu ei gân gynta yn Gymraeg! Does dim llawer o amser ers i Pawlie ddechrau dysgu Cymraeg a gofynnodd Aled iddo, pryd oedd y tro diwetha iddo ymweld â Chymru…

Cerddor Musician

O’r blaen Previously

Y Deyrnas Unedig The UK

Dinesydd Citizen

Sylweddolais i I realised

Swyddogol Official

Deunaw 18

Show More
Rate

Join Podchaser to...

  • Rate podcasts and episodes
  • Follow podcasts and creators
  • Create podcast and episode lists
  • & much more

Episode Tags

Do you host or manage this podcast?
Claim and edit this page to your liking.
,

Unlock more with Podchaser Pro

  • Audience Insights
  • Contact Information
  • Demographics
  • Charts
  • Sponsor History
  • and More!
Pro Features