Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod Mis Mai o bodlediad Clera. Yn hoff fis Dafydd ap Gwilym cawn drafod llawysgrif newydd y mae'r Llyfrgell genedlaethol newydd ei brynu, Llyfr y Flwyddyn 2024, Eisteddfodau yr Urdd, Rhondda Cynon Taf a
Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Y mis hwn cawn y pleser o holi Sioned Dafydd, Cyflwynydd Sgorio a Golygydd y flodeugerdd newydd o gerddi am y campau, 'Mae Gêm yn Fwy na Gêm' (Cyhoeddiadau Barddas). Clywn hefyd am arddan
Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad Clera. Y tro hwn rydyn ni'n Pwnco am Pencerdd - cynllun cyffrous Pencerdd lle mae 5 bardd yn cael blwyddyn gyda 5 athro barddol i gamu ymlaen yn eu cynganeddu. Cawn felly gwmni Non Lewis ac Ana Chiabrando
Croeso i bennod y Mis Bach o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon cawn bwnco yng nghwmni mari George a Jo Heyde wrth i ni drafod cyfrol newydd sbon 'Cerddi'r Arfordir' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a hefyd barn dreiddgar Gruffudd
Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Ym mhennod gynta'r flwyddyn cawn ddwy gerdd arbennig gan y Prif Lenor Sioned Erin Hughes. Byddwn hefyd yn Pwnco am Bwnco! Gwrandewch i wybod mwy a mwynhau pennod arall lawn dop o drin a thrafod barddol.
Croeso i bennod mis Rhagfyr o Clera. Mae 'na gymysgedd o eitemau Nadolig ac eitemau oesol yn y bennod hon. Cawn y fraint o rannu darlith Gurffudd Antur a Peredur Lynch o Blas Mostyn, fel rhan o ŵyl Gerallt yng Nghaerwys. Delicasi Dolig gan Tu
Croeso i bennod y Mis Du o bodlediad Clera. Yn gydymaith i chi wrth i'r nosweithi dywyllu'n gynt bydd arlwy difyr o'r byd barddol Cymraeg. Cawn sgwrs ddifyr a Gorffwysgerdd gan Clare E. Potter a fu'n fardd y mis ar Radio Cymru. Sgwrs ddifyr
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad barddol hyna'r byd yn y Gymraeg. Y tro hwn cawn sgwrs hynod ddifyr a theimladwy gyda'r Prifardd Gruffudd Eifion Owen ynglŷn â'i ail gyfrol wych o gerddi, 'Mymryn Rhyddid' (Cyhoeddiadau Barddas).Hefyd ca
Croeso i bennod mis Medi o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd! Yn y bennod hon cawn sgwrs gyda phrifardd y Goron, Rhys Iowerth am ei gerddi arobryn. Hefyd yn trafod gwaith buddugol Alan Llwyd yn y Gadair mae Jo Heyde a'r Prifardd Tudur Dyl
Croeso i bennod mis Awst o Clera, sy'n dechrau ar y gwaith o drin a thrafod a thafoli'r Eisteddfod yng nghwmni'r Prifardd Hywel Griffiths. Byddwn yn gwneud mwy o adladd parthed y steddfod yn y misoedd i ddod. Ond cawn un eitem y tro hwn a reco
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon, cawn nid un, nid dwy, nid tair a na, nid pedair ond pum cerdd gan feirdd amrywiol, o Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron, i Arwel Rocet, Casi Wyn a Llio M
Croeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch aml i fardd ar eu lwyddiannau, cawn orffwysgerdd yn egsliwsif gan fardd y Gadair yn Ei
Pennod arbennig o faes Eisteddfod yr Urdd, Sir Gâr yn Llanymddyfri. Cawn sgyrsiau gyda chyn-enillwyr Cadair yr Urdd, Iwan Rhys a Kayley Sydenham ynghyd â chlywed gan Drefnydd Creadigol yr Eisteddfod, Llio Maddocks. Cawn hefyd gerdd gan Tegwen
Croeso i bennod mis Ebrill 2023 o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd. Y mis hwn cawn Orffwysgerdd arbennig gan y Prifardd Mererid Hopwood, yn ogystal â chlywed cyfraniadau gan Mererid fel Meuryn a beirdd talwrn a gynhaliwyd ym Mhontyberem.
Croeso i bennod mis Mawrth. Gydag arwyddion bod y gwanwyn ar ei ffordd, a chyn hir Eisteddfod arall ym mis awst, cawn sgwrs ddifyr gyda dau a ddaeth yn deilwng o Gadair Eisteddfod `tregaron llynedd, sef Aros Pritchard a'r Prifardd Rhys Iorwert
Croeso i bennod y Mis Bach! Y tro hwn, cawn gyfle am fash-yp cyffrous rhwng Podlediad Clera a Haclediad, sef y podlediad hynaf yn y Gymraeg. Diolch i Sioned Mills a Iestyn Lloyd am ymuno â ni i drafod y posibilrwydd o weld AI yn camu i fyd bard
Croeso i bennod mis y Cariadon. Ym mhennod mis Ionawr o clera cawn sgwrs gyda g Golygydd blodeugerdd wych newydd o'r enw 'Cariad, (Cyhoeddiadau Barddas), sef Mari Lovgreen.Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Iestyn Tyne o'i gyfrol ddigidol newydd, '
Nadolig llawen i chi gyd! Ym mhennod mis Rhagfyr o Clera bydd Gruffudd a'i Ymennydd llawn Manion yn trafod llinacahu barddol gyda ni yn y Pwnco, a detholiad o rai o hoff gerddi'r beirdd yn yr Orffwysfa, gyda Steffan Phillips, Mari George, Carwy
Dewch mewn o'r gwynt a'r glaw i swatio gyda ni a mwynhau pennod y Mis Du. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn Pwnco mewn 2 ran gyda'r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Elen Ifan o'i phamffled gyntaf o farddoniaeth, 'Ystlum'. Ac mae'
Croeso i bennod mis Hydref 2022 o Clera. y tro hwn cawn sgwrs llawn o ddifyrrwch a dwyster gyda Phrifardd Coron Eisteddfod genedlaethol Tregaron, Esyllt Maelor.Hefyd, cawn flas o gyfrol gyntaf Elinor Wyn Reynolds, 'Anwyddoldeb', gyda'r gerdd
Ym mhennod mis Medi o bodlediad Clera cawn yr olwg gyntaf ar Gyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yng Nghwmni Osian Wyn Owen. Byddwn yn trafod a thafoli mwy ar gynnyrch llên y Brifwyl yn y misoedd i ddod hefyd. Caw
Clera'n fyw o Lwyfan y Llannerch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 yn Nhregaron. Diolch i'r gwesteion gwych, Buddug Roberts, Jo Heyde a Llio Maddocks am eu cyfraniadau difyr a doeth i bennod a recordiwyd ar sadwrn ola'r Eisteddfod yng
Croeso i rifyn rhagflas y Brifwyl! Gyda chyfraniadau difyr a doeth gan Jo Heyde (trafod llyfrau barddol llyfr y flwyddyn), Anwen Pierce (Cywydd Croeso yr Eisteddfod), Gruffudd Eifion Owen a Iestyn Tyne yn ymateb i sylwadau gan Eifion Wyn a llaw
Croeso i bennod mis Mehefin o Clera! Cawn sgwrs gyda Phrifardd yr Urdd, Ciaran Eynon am ei gerdd arobryn ar y testun 'Diolch' yn ogystal â sgwrs gyda'n Posfeistr, Gruffudd Antur am y gyfrol fawreddog newydd, 'A Repertory of Welsh Manuscripts an