Ar Blât – Elinor Snowsill
Y cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…?
Cyn-chwaraewr Former playerRysetiau RecipesAtgofion MemoriesGwrthod To refuseCytbwys BalancedAdnabyddus FamousWastad Always
Dros Frecwast – Toiledau Cyhoeddus
Wel dw i’n siŵr bod Elinor yn bwyta’n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi’n ifanc!Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy’n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi …Diffyg Lack ofCyflwr ConditionColuddyn BowelRheolaeth ControlStraen StressCroen SkinAr hap RandomlyAiladroddus RepetitiousCyfleusterau cyhoeddus Public conveniencesCymryd yn ganiataol Taking for granted
Bore Cothi – Menna Williams
Lois Mererid Edwards oedd honna’n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i’r rhai sy’n diodde o gyflwr meddygol.Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen:Tlws TrophyCyfraniad sylweddol A substantial contributionBraint A privilegeDirprwy DeputyCyfeilio To accompany (on piano)Amyneddgar iawn Very patientLlenni CurtainsDeuawd DuetPan ddaru o Pan wnaeth eIenga IfancaAnrhydedd An honour
Beti a’i Phobol – Shelley Rees
A llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i’n siŵr bydd hi’n mwynhau’r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni.Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi’n blentyn bach, ond nawr bod hi’n bum deg oed tybed ydy hi’n anoddach iddi hi gael gwaith actio?Cyflwynydd PresenterSefyll yn llonydd Standing still Menywod MerchedArallgyfeirio DiversifyYmgyrchu To campaignEgni EnergyDrygionus NaughtyYn go glou Yn eitha cyflymMam-gu NainTaw Mai
Aled Hughes – Singapore
Ychydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a’i Phobol.Basen ni’n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy’n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes:Pennaeth HeadRhyfedd StrangeRhyngwladol InternationalWedi ei leoli LocatedDiwylliannol CulturalHap a damwain Luck Denu To attractYmddiried To trustCystadleuol Competitive
Dros Ginio – Llyfrau
Eisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on’d ife?Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn:Clawr CoverCrynhoi cynnwys To summarise the contentCyfrolau BooksAdolygiadau ReviewYn ei chrynswth In its entiretyDrwgdybus SuspiciousYn hytrach na Rather thanBod dynol Human beingBygythiad ThreatAnnog To encourageAgor cil y drws To open the door slightly
Podchaser is the ultimate destination for podcast data, search, and discovery. Learn More