Podchaser Logo
Home
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.

Released Tuesday, 23rd April 2024
Good episode? Give it some love!
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.

Tuesday, 23rd April 2024
Good episode? Give it some love!
Rate Episode

1 Trystan ac Emma – Hyd 1.49.

Ar eu rhaglen wythnosol mae Trystan ac Emma yn cynnal cwis gyda Ieuan Jones neu Iodl Ieu fel mae’n cael ei alw. Ac yn ddiweddar roedd rhaid i Ieuan ofyn cwestiwn tie break i Trystan, Emma, a’u gwestai Megan...a dyma’r cwestiwn:

Yn ddiweddar RecentlyLlongyfarchiadau Congratulations

2 Rhaglen Ffion Dafis – Hyd 2.28.

Wel, dan ni’n gwybod rŵan pa mor gyflym mae cangarŵ yn medru rhedeg yn tydan?

Ar hyn o bryd mae‘r actor Dafydd Emyr yn perfformio mewn drama lwyfan yn Saesneg yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Enw’r ddrama ydy ‘Kill Thy Neighbour‘ a chafodd ei sgwennu gan y dramodydd Lucie Lovatt. Mi gafodd Ffion Dafis, yn ei rhaglen bnawn Sul, sgwrs efo Dafydd Emyr er mwyn cael gwybod dipyn mwy am y ddrama.

Trawiadol StrikingDifrifol SeriousCyfoes ModernCyfredol ContemporaryY felltith The curseDychmygol ImaginaryTrigolion cynhenid Indigenous residentsEstroniaid cefnog Rich outsidersRhwystro To prevent(G)oblygiadau ConsequencesGostwng yn ddifrifo Fallen sharply

3 Beti a’i Phobol – Hyd 2.51.

Dafydd Emyr yn fanna’n sôn am y ddrama ‘Kill Thy Neighbour‘ sydd i’w gweld yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug.

Y nofelydd, cogydd ac actores Rhian Cadwaladr oedd gwestai Beti George ddydd Sul ac yn y clip hwn mae hi’n sôn am ei henw ‘Cadwaladr’. Mae hi hefyd yn sôn ei bod yn hoff o hel achau, ac wedi canfod ei bod yn perthyn i Cadwaladr, Brenin y Brythoniaid. Mae hi hefyd yn sôn am ei chefndir yn Llanberis a hanes ei rhieni.

Hel achau To genealogizeY Brythoniaid The BritonsCanfod To findPlwyf ParishYmwybodol AwareRhyfedd StrangeDirprwy swyddog Deputy officerAwyrlu AirforceBe dach chi’n dda? What are you doing?Alla i ddychmygu can imagine

4 Aled Hughes – Hyd 2.00

Wel, wel, mae Rhian Cadwaladr yn perthyn i un o frenhinoedd y Brythoniaid – pwy fasai’n meddwl!

Mae Antur Waunfawr yn dathlu pen-blwydd yn bedwar deg oed eleni. Mae’r Antur yn rhoi gwaith a chyfleoedd i bobol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn y gogledd orllewin. Ddydd Gwener y deuddegfed o Ebrill, ‘roedd na daith feics pedwar deg milltir o hyd fel rhan o’r dathliad. Mi fuodd Aled Hughes draw i Gaernarfon i sgwrsio efo Jack Williams, sy’n trefnu’r daith feics ar ran Antur Waunfawr.

Dathliad CelebrationUnigolion IndividualsTrwsio To repair

5 Bore Cothi – Hyd 2.26.

A phen-blwydd hapus i Antur Waunfawr sy’n gwneud gwaith gwerth chweil yn ardal Arfon yng Ngwynedd.

Antur arall sy’n gwneud gwaith campus yng Ngwynedd ydy Antur Aelhearn ym Mhen Llŷn, ac yn ddiweddar ar Bore Cothi, cafodd Shan sgwrs efo John Pritchard, Dirprwy Gadeirydd yr Antur. Mae’r Antur am brynu Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn, sydd wedi bod yn yr ardal am bron i gan mlynedd.

Gwerth chweil WorthwhileDychmygu To imagineGalwad A callArwr HeroMor ddiolchgar So thankfulLlewyrchus ProsperousYn hanfodol EssentialCraidd CoreEhangu To expandCynhyrchu To produceGo sylweddol Quite substantialOs na watsia i If I don’t look out

6 Dros Ginio – Hyd 2.30.

Pob lwc i’r Antur efo’r fenter newydd, dw i’n siŵr bydd hi’n llwyddiant mawr.

Ddydd Mawrth diwetha ar raglen Dros Ginio, mi gafodd Catrin Heledd gwmni’r meddyg teulu Dr Llinos Roberts, a dyma i chi flas ar sgwrs gaethon nhw am gyflwr ein gwallt ac am effaith hynny ar ein hiechyd:

Cyflwr ConditionDw i yn cyfadde I admitBlewyn A hairStraen StressYn raddol GraduallyYn ei gylch e About itYmddangos To appearAnsawdd TextureMenywod Merched Brau Brittle

Show More
Rate

Join Podchaser to...

  • Rate podcasts and episodes
  • Follow podcasts and creators
  • Create podcast and episode lists
  • & much more

Episode Tags

Do you host or manage this podcast?
Claim and edit this page to your liking.
,

Unlock more with Podchaser Pro

  • Audience Insights
  • Contact Information
  • Demographics
  • Charts
  • Sponsor History
  • and More!
Pro Features